#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-736

Teitl y ddeiseb: Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch

Os yw'r Llywodraeth am wneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch, dylid sicrhau na chaiff unrhyw un sy'n ceisio gwasanaeth iechyd meddwl gael ei wrthod heb dderbyn cymorth. Dylai unrhyw un sy'n mynd at ei feddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol oherwydd problemau iechyd meddwl gael ei gyfeirio'n awtomatig at y tîm argyfwng, a ddylai weithredu ar unwaith. Ni ddylai fod yn gyfrifoldeb ar yr unigolyn i gysylltu â'r tîm argyfwng ar ei ben ei hun. Dylid hefyd cynnig opsiwn o therapi un wrth un bob amser, yn hytrach na therapi grŵp yn unig.

Bydd nifer o bobl yn gwybod nad ydw i wedi cael bywyd hawdd a fy mod wedi bod yn cael trafferthion â'm hiechyd meddwl; rwy'n dioddef o iselder, gorbryder, anhwylder straen wedi trawma ac OCD. Yn ddiweddar, rwyf wedi bod ar fy ngwaethaf, ac wedi erfyn am gymorth, ond cefais fy siomi gan y gwasanaethau iechyd meddwl y credwn y byddent yn fy helpu.

Hoffwn i'm profiad i helpu pobl eraill yng Nghymru wrth iddynt geisio'r cymorth y maent ei angen.

Y cefndir

Mae adroddiad y Sefydliad Iechyd Meddwl, sef Iechyd Meddwl yng Nghymru: Ffeithiau Sylfaenol, yn nodi ar sail data o Arolwg Iechyd Cymru bod 13 y cant o oedolion sy'n byw yng Nghymru (16 oed a throsodd) wedi cael triniaeth ar gyfer problem iechyd meddwl yn 2015, sy'n gynnydd o'r 12 y cant a gafodd driniaeth yn 2014. Mae'r papur briffio hwn yn darparu gwybodaeth ynghylch mynediad at wasanaethau iechyd meddwl mewn gofal sylfaenol a gofal eilaidd, yn ogystal â rhywfaint o wybodaeth am ofal argyfwng.

Mynediad at wasanaethau iechyd meddwl mewn gofal sylfaenol a gofal eilaidd

Yn 2010, pasiodd Llywodraeth Cymru Fesur Iechyd Meddwl Cymru 2010 (y Mesur), a ddaeth i rym yn 2012 gan gynnwys darpariaeth ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd meddwl sylfaenol ac eilaidd yng Nghymru. O ran gofal sylfaenol, mae'r Mesur yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, gan gynnal y gwasanaethau o fewn meddygfeydd teulu cyfredol neu ar y cyd â'r meddygfeydd teulu hynny.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar gyfer y gwasanaethau hynny yn y Model Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cymorth iechyd sylfaenol lleol. Mae'n nodi y bydd meddygon teulu yn cyfeirio unigolion at wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol (paragraff 3.5). Efallai y bydd meddygon teulu yn dewis cyfeirio unigolion at wasanaethau eraill o fewn y system gofal iechyd meddwl (e.e. Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, ac ati) Wedi i unigolyn gael ei gyfeirio at wasanaethau eraill, dywedir fel a ganlyn:

3.24 It is for the recipient of the referral to consider and decide whether the provision of any services to which the referral relates is called for.

Diben y gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yw mynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl mewn achosion ysgafn i gymhedrol gan ddefnyddio amrywiaeth o driniaethau:

3.16 Local primary mental health support services should offer a portfolio of evidence-based, time limited interventions which are appropriate to individual clinical need to treat common mental health problems in all age groups. The short-term interventions (i.e. treatment), should be delivered either at an individual level or through group work, dependent on which approach the assessment has identified as appropriate. Such interventions may include counselling, psychological interventions, (including cognitive behavioural therapy, solution-focussed therapy, family work, online support, stress management), bibliotherapy and education.

Mae cleifion â phroblemau iechyd meddwl yn aml yn cael eu cyfeirio at wasanaethau eilaidd sy'n wasanaethau iechyd meddwl arbenigol na chânt eu darparu o fewn gofal sylfaenol.   O ran gofal eilaidd, mae Rhan 2 y Mesur yn rhoi'r hawl i bob claf gael cydlynydd gofal ynghyd â chynllun gofal a thriniaeth. Mae Rhan 3 o'r Mesur yn caniatáu i gleifion sydd wedi cael eu rhyddhau o'r gwasanaethau gofal iechyd eilaidd gyfeirio eu hunain yn ôl at y gwasanaethau hynny.

Roedd y Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru adolygu effeithiolrwydd y Mesur o fewn pedair blynedd iddo ddod i rym. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad interim (PDF 789 KB) yn 2014 a chyhoeddwyd adroddiad terfynol dyletswydd i adolygu (PDF 1.1 MB) flwyddyn yn ddiweddarach. Nodwyd bod y newid diwylliant yn dod yn amlycach, er bod angen cynnal mwy o waith. Nododd yr adroddiad fod y gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn diwallu galw sylweddol nad oedd darpariaeth ar ei gyfer gynt, gan arwain at amseroedd disgwyl hwy, yn arbennig o ran therapi secolegol. Mae'r canfyddiadau hyn yn ymdebygu i adroddiad Mind Cymru sy'n awgrymu nad yw unigolion yn cael dewis o therapi ac y cânt gynnig triniaeth nad ydyw'n diwallu eu hanghenion yn y ffordd orau (gellir gweld rhagor o wybodaeth am y therapi seicolegol sydd ar gael yng Nghymru  mewn papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil).

Ynghyd ag adolygiad Llywodraeth Cymru, roedd y Mesur hefyd yn destun craffu ar ôl deddfu gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Pedwerydd Cynulliad. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi bod mynediad at ofal a chefnogaeth iechyd meddwl wedi gwella ar y cyfan, ond mynegodd y Pwyllgor ei bryder na fydd capasiti gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol yn ddigonol o bosibl ar gyfer diwallu'r galw cynyddol. Gellir darllen crynodeb o adroddiad y Pwyllgor ym mlog y Gwasanaeth Ymchwil.

Gofal argyfwng

Darperir gofal argyfwng gan dimau triniaeth yn y cartref i ddatrys argyfwng. Nid oes cysondeb ar draws y gwahanol dimau o ran polisi cyfeirio. Bydd rhai timau argyfwng yn derbyn pobl sy'n hunan-gyfeirio, ac eraill yn derbyn cleifion sydd wedi cael eu cyfeirio gan feddygon teulu neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn unig. Mae argaeledd gofal argyfwng hefyd wedi bod yn destun pryder, ac mae Mind Cymru yn awgrymu nad yw gwasanaethau yr un mor hygyrch i bawb o bobl Cymru, a bod hygyrchedd y gwasanaethau yn amrywio o le i le.

Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

Lansiodd Llywodraeth flaenorol Cymru strategaeth ddeng mlynedd yn 2012, sef Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, yn amcanu at wella iechyd meddwl a lles. Mae'r strategaeth yn ceisio canfod atebion tymor hir, ac mae pwyslais ynddi ar atal a lles. Cyhoeddwyd Cynllun Cyflawni 2016-2019, sef yr ail o gyfres o dri, ym mis Hydref 2016. Nododd y cynllun cyflawni 11 blaenoriaeth gan osod canlyniadau dymunol, nodi camau gweithredu allweddol i gyflawni'r nodau, a manylu ar y mesurau perfformiad. Nodwyd materion sy'n ymwneud â mynediad at ofal mewn dau faes blaenoriaeth yn enwedig:

·         Maes blaenoriaeth 3 - Mae gwasanaethau’n diwallu anghenion holl boblogaeth amrywiol Cymru. Canolbwyntio ar leihau anghydraddoldebau o ran mynediad unigolion sy'n agored i niwed at wasanaethau, a sicrhau bod darpariaeth briodol ar gyfer gwasanaethau cyfrwng Cymraeg; a

·         Maes blaenoriaeth 8 - Mae gwasanaethau priodol ac amserol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ar gael i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae'n mynd i'r afael â nifer o faterion, megis rhoi cymaint o flaenoriaeth i les meddyliol â lles corfforol wrth ddatblygu a chynnig gwasanaethau, gan weithio â'r trydydd sector i ddefnyddio dull integredig, neu gan sicrhau bod cysylltiadau cryf rhwng gofal sylfaenol ac iechyd meddwl. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd sicrhau bod therapi seicolegol seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer oedolion ar gael yn rhwyddach yn unol â Chynllun Gweithredu'r Pwyllgor Rheoli Cenedlaethol ar gyfer Therapïau Seicolegol (NPTMC) erbyn mis Mawrth 2017.

Camau Gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae iechyd meddwl yn codi'n aml ar agenda'r Cynulliad. Ar 12 Hydref 2016, cynhaliodd Plaid Cymru ddadl ar iechyd meddwl, gan ganolbwyntio ar newid agweddau pobl a herio'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl, a chytunodd yr Aelodau fod angen mynd i'r afael â'r mater.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.